Plygain i ddechreuwyr!

Mae carolau Plygain1 yn rhan bwysig o Nadolig draddodiadol yng Nghymru, gyda geiriau a thonnau sydd wedi bodoli ers canrifoedd.

Ar Ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd am 11.00 o’r gloch fe fydd trac2, Diwylliant Byw3 a Chyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig gweithdy un diwrnod ar ganu plygain yn Festri Capel Heol Awst, Heol Awst, Caerfyrddin.  (Codir tal o £5.00)

Fe fydd Dr Rhinannon Ifans4 yn arwain y gweithdy.  Mae Rhiannon yn awdurdod ar arferion gwerin megis y Plygain a’r Fari Lwyd ac mae hefyd yn aelod o Driawd y Penrhyn, sef triawd Plygain adnabyddus o Ganolbarth Cymru.

Nid i ddynion yn unig!

Yn draddodiadol dynion sydd wedi bod yn rhan o bartion Plygain ond mae menywod wedi bod yn rhan o’r Plygain yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae’r gweithdy yn agored i bawb sydd a diddordeb yn y Plygain.

Nid i siaradwyr Cymraeg yn unig!

Fe fydd gwasanaeth cyfieithu yn cael ei ddarparu felly fe all pawb sy’n medru canu yn y Gymraeg gyfle i fwynhau’r gweithdy

Gyda dathliadau traddodiadol ar gynnydd yng Nghymru, mae hwn yn gyfle gwych i

 

DATGANIAD I’R WASG
6 Tachwedd 2006

Cyswllt:  Siân Thomas, trac (02920 318863 neu 07811 955592)